OBE, Laurence Olivier Award for Best Actress, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
Mae Penelope Alice Wilton,[1]OBE (ganed 3 Mehefin1946) yn actores Seisnig. Fe'i hadnabyddir am serennu gyda Richard Briers yng nghomedi sefyllfa y BBCEver Decreasing Circles (1984–89); chwarae Homily yn The Borrowers (1992) a The Return of the Borrowers (1993); ac am ei rôl fel Isobel Crawley yn y gyfres ddrama ITVDownton Abbey (2010–15). Chwaraeoedd hefyd y rôl Harriet Jones yn Doctor Who (2005–08).
Mae Wilton wedi cael gyrfa eang ar y llwyfan, yn derbyn chwe enwebiad Gwobr Olivier. Fe'i henwebwyd ar gyfer Man and Superman (1981), The Secret Rapture (1988), The Deep Blue Sea (1994), John Gabriel Borkman (2008) a The Chalk Garden (2009), cyn ennill y Wobr Olivier yn 2015 ar gyfer yr Actore Orau ar gyfer Taken at Midnight. Mae ei ymddangosiadau ffilm yn cynnwys Clockwise (1986), Calendar Girls (2003), Shaun of the Dead (2004), Match Point (2005), Pride & Prejudice (2005), The Girl (2012), The Best Exotic Marigold Hotel (2012), The Second Best Exotic Marigold Hotel (2015) a The BFG (2016).
Bywyd cynnar
Ganwyd Wilton yn Scarborough, North Riding of Yorkshire, yn ferch i Alice Travers, dawnswraig tap a chyn actores, a Clifford William Wilton, dyn busnes.[2][3][4][5] Mae'n nith i'r actorion Bill Travers a Linden Travers[6] ac yn gyfnither i'r actor Richard Morant.[7] Roedd ei mam-gu a thad-cu ar ochr ei mam yn berchen theatrau.[4] Mynychodd Wilton a'i chwiorydd Rosemary a Linda, yr ysgol lleiandy yn Newcastle upon Tyne, lle roedd eu mam yn arfer addysgu. Mynychodd y Drama Centre yn Llundain.[8]
Gwobrau a chydnabyddiaeth
Yn 2001, fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Theatr yr Evening Standard Llundain ar gyfer ei pherfformiad yn The Little Foxes yn y Donmar Warehouse. Yn 2004, daeth yn Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei gwasanaethau i ddrama. Yn 2012, derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Gampws Scarborough Prifysgol Hull.
Blwyddyn
Gwobrau Olivier
Gwaith a enwebwyd
Canlyniad
1981
Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Adfywiad
Man and Superman
Enwebwyd
1988
Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Drama Newydd
The Secret Rapture
Enwebwyd
1994
Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau
The Deep Blue Sea
Enwebwyd
2008
Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau
John Gabriel Borkman
Enwebwyd
2009
Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau
The Chalk Garden
Enwebwyd
2015
Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau
Taken at Midnight
Enillodd
Gwobrau eraill
1981
Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau
Much Ado About Nothing
Enillodd
1993
Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau
The Deep Blue Sea
Enillodd
2012
Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer yr Ensemble Gorau mewn Cyfres Ddrama
Dechreuodd Penelope Wilton ei gyrfa broffesiynol yn y Nottingham Playhouse, ac ymddangosodd gyda Nicholas Clay yn The Dandy Lion. Chwaraeoedd Regan King Lear Michael Hordern yn y Nottingham Playhouse yn 1970; gyda Anna Calder-Marshall yn chwarae Cordelia, a Thelma Ruby yn chwarae'r chwaer hŷn, Goneril.
Blwyddyn
Teitl
Rôl
Theatr
1971
West of Suez
Mary
Theatr y Llys Brenhinol, Llundain
1971
The Philanthropist
Araminta
Theatr y Llys Brenhinol, wedyn Theatr Ethel Barrymore, Dinas Efrog Newydd
Theatr y Minerva, Chichester/ Theatr Frenhinol Haymarket, Llundain
Bywyd personol
Rhwng 1975 a 1984, roedd Wilton yn briod i'r actor Daniel Massey. Cawsant ferch, Alice, fe'i ganwyd yn 1977.[9] Yn 1991 priododd Wilton Syr Ian Holm (yn 1998, ar ôl iddo gael ei urddo'n farchog, daeth yn Lady Holm) ac ymddangosant gyda'i gilydd fel Pod ac Homily yn addasiad 1993 y BBC o The Borrowers. Ysgarant yn 2001.[10]