Allen Ginsberg
Bardd Americanaidd oedd Irwin Allen Ginsberg (yngenir/ˈɡɪnzbərɡ/) (3 Mehefin 1926 – 5 Ebrill 1997). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd 'Howl' (1956), a ddathlai ei ffrindiau a oedd yn aelodau o Genhedlaeth y Bitniciaid ac yn beirniadu'r hyn yr ystyriai fel grymoedd dinistriol materoliaeth a chydymffurfiaeth yn yr Unol Daleithiau. Fel nifer o'r ysgrifenwyr 'Beat' eraill, parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd a cherddorion heddiw.[1][2][3][4] Bywyd CynnarGanwyd Allen Ginsberg i deulu Iddewig yn Newark, New Jersey, ac wedyn bu'n fyw fel plentyn yn nhref Paterson gerllaw. Yn ei arddegau ysgrifennodd llythyron i'r New York Times am faterion gwleidyddol a hawliau gweithwyr. Tra yn yr ysgol uwchradd dechreuodd darllen llyfrau Walt Whitman.[5] Yn ôl y The Poetry Foundation, treuliodd Ginseberg rhai misoedd mewn ysbyty meddwl wedi iddo bledio'n wallgof mewn achos llys ar gyhuddiad o gael eiddo wedi'i dwyn.[6] GyrfaYn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Colombia cyflwynodd Ginsberg gan ei gyd-fyfyriwr Lucien Carr i nifer o ysgrifenwyr ifanc arbrofol yn cynnwys Jack Kerouac a William S. Burroughs. Fel rhan o'r grŵp yma fe ddaeth Ginsberg i fod yn un o sylfaenwyr y mudiad llenyddol avant garde Beat. Datblygodd y beirdd ac ysgrifenwyr Beat arddull newydd o ysgrifennu gan dorri'n rhydd o gyfyngiadau a chonfensiynau bywyd Americanaidd y cyfnod. Mewn fflat yn Harlem (ardal Affro-Americaniadd Efrog Newydd) dywedodd Ginsberg wrtho gael ei Weledigaeth Blake – gan fynnu iddo glywed llais Duw wrth ddarllen gwaith y bardd William Blake. Wedyn eglurodd ni fu'r weledigaeth yn ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau ond roedd am ail-greu'r teimladau trwy arbrofi gyda chyffuriau.[7] Symudodd Ginsberg i San Francisco ac ym 1954 cyfarfu â Peter Orlovsky (1933–2010), a fu'n bartner iddo hyd ddiwedd ei fywyd. Ym 1956 cyhoeddwyd ei waith enwocaf y gerdd Howl. Cafodd y llyfrau eu cipio gan yr heddlu ym 1957 a bu achos llys i wahardd y gwaith am iddo gynnwys sôn am gariad hoyw ar adeg pab fu'n anghyfreithlon. Bu'r cyhoeddusrwydd i 'Howl' yn gymorth mawr i ennill diddordeb i'r gwaith a chynyddu gwerthiant..[1]
Ym 1957 symudodd i Baris i fyw mewn fflat rhad uwchben bar yn 9 rue Gît-le-Coeur. Ymunodd William Burroughs ac ysgrifenwyr Beat eraill ac fe enillodd y fflatiau'r enw 'Beat Hotel'. Yma ysgrifennodd Ginseberg ei gerdd epig Kaddish. Yn ddiweddarach ymwelodd â William Burroughs yn Tangiers, Moroco a gyda Jack Kerouac gynorthwyodd Burroughs gyhoeddi ei waith enwog The Naked Lunch. Yn ystod 1962-3 teithiodd Ginsberg ac Orlovsky ar draws India gan fyw yn Kolkata (Calcutta) a'r ddinas sanctaidd Benares er awdurdodau India ceisio eu taflu o'r wlad. Daeth Ginsburg yn Fwdhydd ac astudiodd crefyddau dwyreiniol yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.[8] Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel Fietnam a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd September on Jessore Road, yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad Bangladeshi. Yn ôl y beirniad llenyddol Helen Vendler mae hyn yn nodweddiadol o ymroddiad Ginsberg i wrthwynebu gwleidyddiaeth imperialaidd a gormesi'r difreintiedig. Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yr newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|