Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

 

Roxy Barton

Roxy Barton
Barton yn chware rhan Titania
Ganwyd8 Mai 1879 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1962 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Roedd Roxy Barton (8 Mai 18791 Mawrth 1962) yn actores o Awstralia a gafodd yrfa theatr yn Llundain.

Cefndir

Ganwyd Barton yn Sydney Awstralia ym 1879 fel Roxane Claudia May Barton, yr ieuengaf o 11 o blant i Jane McCulloch née Davie (1833-1927) a Russell Barton (1830-1916).

Dechrau gyrfa

Dechreuodd ei gyrfa lwyfan yn Awstralia gyda'r Willoughby-Geach Company, gan ymddangos yn Robbery Under Arms (1898), Man to Man (1899) ac Othello (1899), i gyd yn y Criterion Theatr yn Sydney; The Power and the Glory (1899) yn Theatr y Lyceum, Sydney; Tom, Dick and Harry ac A Highland Legacy (1901) yn y Palace Theatre, Sydney ; ac yn A Stranger in a Strange Land (1904) yn y Princess Theatre Melbourne .[1]

Gyrfa yn Llundain

Ar ôl symud i Lundain i ddilyn gyrfa theatr ymunodd â Chwmni FR Benson, gan ymddangosodd iddi yn The Comedy of Errors (1904-1905) yn Theatr yr Adelphi ac fel Athena yn The Oresteia Trilogy yn y Coronet Theatre yn Notting Hill (1905).[2] Wedyn chwaraeodd Titania yng nghynhyrchiad Otho Stuart o A Midsummer Night's Dream yn Theatr yr Adelphi (1905) gyferbyn ag Oscar Asche fel Bottom a Beatrice Ferrar fel Puck.[3][4] Dychwelodd i Awstralia lle ymddangosodd yn The Message from Mars (1906) yn y Theatre Royal, Adelaide.[1]

Asche fel Bottom a Barton fel Titania yn A Midsummer Night's Dream (1905)

Ar 14 Mehefin 1906 yn Eglwys Blwyf St Marylebone yn Marylebone, Llundain priododd yr actor Henry Stephenson Garraway (1871-1956) [5] - a gafodd yrfa lwyddiannus fel Henry Stephenson. Eu merch oedd yr actores Jean Harriet Garraway (1911-2004).

Barton oedd Helen ym Mharis and Oenone yn Theatr y Savoy (1906).[6] Chwaraeodd hi Lady Hampshire gyferbyn â Weedon Grossmith yn The Night of the Party yn Theatr yr Apollo (1908).[7] Ym 1910 chwaraeodd rhan Judy Alardy, yn The Little Damozel yn Theatr y Grand, Abertawe.[8]

Diddymwyd ei phriodas â Henry Stephenson rhywbryd cyn 1922, pan ailbriododd. Ym 1923 hwyliodd hi a'i merch Jean i Sydney yn Awstralia ar fwrdd yr Euripides . Mae cofrestr y llong yn ei chofnodi fel gwraig tŷ [9] Yn 1939 roedd hi'n byw yn St George's Road yn Stratford-upon-Avon.[10] Roedd hi'n dal i gael ei disgrifio fel gwraig tŷ ym 1948, pan ymwelodd â Sydney, Awstralia ar fwrdd y llong P&O Strathaird .[11]

Marwolaeth

Yn ei blynyddoedd diweddarach bu’n byw yn 79 Heol Isaf, Radur, Caerdydd.[12]

Rhestrwyd Roxy Barton Garraway fel 'gwraig weddw' pan fu farw yng Nghartref Nyrsio Plymouth ym Mhenarth ym mis Mawrth 1962.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Stage career of Roxy Barton - AusStage - National Library of Australia
  2. J. Michael Walton, Translating Classical Plays: Collected Papers, Routledge (2016) - Google Books p. 38
  3. Biography of Roxy Barton - Footlight Notes website
  4. Acting career of Roxy Barton - Theatricalia website
  5. London, England, Church of England Marriages and Banns, 1754-1932 for Roxy Claudia May Barton: Westminster, St Marylebone, 1900-1912 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
  6. J. P. Wearing, The London Stage 1900-1909: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel, Rowman & Littlefield (2014) - Google Books p. 282
  7. Wearing, The London Stage 1900-1909, p. 384
  8. "NEXT WEEK'S AMUSEMENTS - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-03-04. Cyrchwyd 2020-06-22.
  9. UK and Ireland, Incoming Passenger Lists, 1878-1960 for Roxane Stephenson: London, England, 1923 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
  10. 1939 England and Wales Register for Roxane Stephenson: Warwickshire, Stratford-on-Avon - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
  11. UK and Ireland, Outward Passenger Lists, 1890-1960 for Roxane Stephenson: London, 1948 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
  12. England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1995 for Roxy Claudia May Garraway: 1962 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
Kembali kehalaman sebelumnya