Mae sedd Maldwyn ar gyfer Senedd Cymru, a sefydlwyd yn 1999, yn seiliedig ar yr un ffiniau.
Hanes
Sefydlwyd Maldwyn fel etholaeth ar gyfer Tŷ'r Cyffredin yn 1536.
Drwy gydol yr Ugeinged Ganrif, ystyriwyd yr etholaeth i fod yn un o brif gadarnleoedd y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru, gan aros yn nwylo'r blaid am 99 mlynedd yn olynnol rhwng 1880 a 1979, gyda buddugoliaeth y Ceidwadwr, Delwyn Williams yn dod ar cyfnod i ben. Fodd bynnag, adennillwyd y sedd i'r Rhyddfrydwyr dan Alex Carlile yn 1983, a fu'n Aelod Seneddol i'r etholaeth tan 1997, gyda Lembit Opik yn ei olynnu.
Daeth yr etholaeth eto i ddwylo'r Ceidwadwyr yn 2010, gyda Glyn Davies yn ennill o fwyafrif cyfyng o 1,184 pleidlais. Adenillodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2015, dro hyn gyda mwyafrif o 5,325 pleidlais.