Juan Carlos I, brenin Sbaen
Brenin Sbaen o 22 Tachwedd 1975 hyd ei ymddiorseddiad ar 18 Mehefin 2014 oedd Juan Carlos I de Borbón (Ioan Siarl I) (ganwyd fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias yn Rhufain, 5 Ionawr 1938). HanesMae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain, Yr Eidal yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol, alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad Ail Weriniaeth Sbaen ym 1931. Cafodd ei fedyddio yng nghapel Urdd Malta gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y Pab Pïws XII). Cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar 26 Gorffennaf 1947. Mewn cyfarfod rhwng Francisco Franco a Juan de Borbón ar 25 Awst 1948, cytunwyd i anfon y tywysog i Sbaen i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos dir Sbaen am y tro cyntaf. Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol Zaragoza (1955-1957), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, Pontevedra (1957-1958), yn Academi yr Awyrlu San Javier, Murcia (1958-1959), a graddiodd ym Madrid. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1956 - pan oedd yn 18 oed - lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, Alfonso, mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn. Priododd Y Dywysoges Sofia o Wlad Groeg a Ddenmarc ar 14 Mai 1962, yn Eglwys Sant Denis yn Athen. Cafodd ei ddatgan yn frenin ar 22 Tachwedd 1975 yn sgil marwolaeth Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar 6 Rhagfyr 1978. Wedi ethol Felipe González yn brif weinidog Sbaen ym 1982, daeth cyfnod gweithgar Juan Carlos mewn gwleidyddiaeth Sbaen i ben. Symbol o undod y wlad yw ei brif swyddogaeth erbyn hyn. Dan gyfansoddiad Sbaen, mae ganddo freintryddid rhag ei erlyn am faterion sy'n perthyn i'w ddyletswyddau swyddogol. Y rheswm am hyn yw bod rhaid i bob gweithred a wna yn rhinwedd y frenhiniaeth cael ei lofnodi gan swyddog o'r llywodraeth, a'r swyddog hwnnw sy'n cymryd cyfrifoldeb yn lle o'r brenin. Mae'n drosedd tramgwyddo anrhydedd y teulu brenhinol, ac mae'r Basgydd Arnaldo Otegi a chartwnwyr El Jueves wedi eu cael eu cosbi am hynny. Ar 18 Mehefin 2014 ymwrthod â'r goron o blaid ei fab, Felipe VI. Mae'r brenin yn areithio i'r wlad pob noswyl nadolig. Fe fydd yn teithio ledled Sbaen ac ar draws y byd yn gyson i gynrychioli'r wlad. Mae ei gyfeillgarwch â Hassan II, brenin Moroco, wedi lleddfu tensiynau gwleidyddol. Yn 2007 heriodd Hugo Chávez gan ddweud "¿Por qué no te callas?". Penderfynodd Juan Carlos adael Sbaen yn 2020 oherwydd sgandal ariannol yr oedd wedi bod yn rhan ohono. Plant
|