Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

 

Joseph Chamberlain

Joseph Chamberlain
Ganwyd8 Gorffennaf 1836 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1914 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArweinydd yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau, Llywydd y Bwrdd Masnach, President of the Local Government Board, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Lord Mayor of Birmingham Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol, Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJoseph Chamberlain Edit this on Wikidata
MamCaroline Harben Edit this on Wikidata
PriodMary Crowninshield Endicott Chamberlain, Florence Kenrick, Harriet Kenrick Edit this on Wikidata
PlantNeville Chamberlain, Austen Chamberlain, Beatrice Chamberlain, Ida Chamberlain, Hilda Chamberlain, Ethel Chamberlain Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Joseph Chamberlain (8 Gorffennaf 18362 Gorffennaf 1914), yn ddyn busnes a gwleidydd. Gweithiodd i ddiwygio addysg ac i wella dinasoedd. Roedd yn Aelod Seneddol o 1876 i 1914, gan wasanaethu fel yr Ysgrifennydd y Trefedigaethau o 1895 i 1903. Enillodd ei fab Austen Gwobr Heddwch Nobel a bu mab arall iddo Neville yn Brif Weinidog 1937-1940.

Bywyd Personol

Ganwyd Chamberlain yn Camberwell Llundain, yn fab i Joseph Chamberlain, gwneuthurwr esgidiau a Caroline (née Harben)

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Coleg y Brifysgol, Euston, gan ymadael a'r ysgol yn 16 oed.[1]

Fe fu yn briod teirgwaith Ym 1861 fe briododd Hariett Kenrick, Merch Archibald Kenrick, Neuadd Wynn, Riwabon. Bu iddynt un ferch ac un mab; bu Harriet farw ym 1863 wrth esgor ar eu mab Joseph Austen Chamberlain.

Ym 1868 priododd Florence Kenrick, cyfnither ei wraig gyntaf, bu iddynt bedwar o blant gan gynnwys Arthur Neville Chamberlain a anwyd ym 1869. Ym 1875 bu Florence farw wrth esgor ar bumed plentyn, bu'r plentyn farw o fewn diwrnod i'w geni hefyd.

Ym 1888 priododd ei drydedd wraig Mary Crownshield Endicott, merch Ysgrifennydd Rhyfel yr UDA, William Endicott.

Gyrfa

Wedi ymadael a'r ysgol aeth Joseph i weithio fel prentis yn ffatri gwneud esgidiau ei dad, dwy flynedd yn niweddarach aeth i weithio yn ffatri gwneud sgriwiau ei ewyrth ym Mirmingham gan ddod yn bartner yn y busnes maes o law; tyfodd y busnes i fod yn un fwyaf o'i fath yn ynysoedd Prydain gan gynhyrchu 2 o bob 3 sgriw a gynhyrchwyd yn Lloegr a gan allforio sgriwiau i bob parth o'r byd.[2]

Gyrfa fel gwleidydd lleol

Ym 1866 ceisiodd Llywodraeth Ryddfrydol yr Arglwydd Russell cyflwyno deddf diwygio'r senedd ond trechwyd yr ymdrech gan fod rhai aelodau o'i blaid yn y senedd yn credu byddai ehangu'r etholfraint yn peryglu'r drefn gymdeithasol, tra fo eraill yn ei blaid yn anhapus bod y mesur dim yn ddigon cryf gan nad oedd yn cynnig pleidlais i bob pen teulu nac yn cynnig pleidlais dirgel; roedd Chamberlain yn un o'r chwarter miliwn a fu'n gorymdeithio ym Mirmingham i fynnu ehangu nifer y pleidleiswyr ac i sicrhau bod y trefi mawr diwydiannol newydd, megis Birmingham yn cael cynrychiolaeth deg. Syrthiodd llywodraeth Rusell ac aeth y llywodraeth Ceidwadol newydd ati i gyflwyno Mesur Seneddol oedd bron yn dyblu nifer y pleidleiswyr o 1.4 miliwn i 2.4 miliwn.. Yn etholiad cyffredinol, 1868 bu Chamberlain yn ymgyrchu i sicrhau bod pleidleiswyr newydd Birmingham yn cefnogi'r ymgeiswyr Rhyddfrydol.

Yn Nhachwedd 1869 daeth yn aelod o Gyngor Dinas Birmingham. Fel cynghorydd bu'n ymgyrchu am brisiau tir rhatach i weithwyr cefn gwlad. Ym 1873 daeth yn Faer Birmingham[3] fel maer sicrhaodd bod y cyngor yn prynu’r cwmnïau nwy a dŵr oedd yn cyflenwi’r ddinas, er mwyn i'r dinasyddion cael dŵr glân a diogel. Darparodd parciau, ffyrdd, amgueddfeydd ysgolion a thai newydd ar gyfer pobl dlawd y ddinas.

Gyrfa Seneddol

Ym 1876 daeth yn Aelod Seneddol Birmingham. Ym 1880, Penodwyd Chamberlain yn Llywydd y Bwrdd Masnach[4], sef gweinidog y llywodraeth a oedd yn gweithio i wella masnach. Gwnaeth cyfreithiau i helpu dinasoedd eraill i brynu cwmnïau preifat, fel roedd wedi ei wneud ym Mirmingham. Gweithiodd i wneud rhenti yn rhatach yn yr Iwerddon, a oedd yn drefedigaeth Brydeinig ar y pryd.

Erbyn y 1880au roedd nifer o Aelodau seneddol Rhyddfrydol yn dechrau dod i'r casgliad mae'r ffordd gorau o ddelio efo'r Cwestiwn Gwyddelig byddid trwy roi elfen o ymreolaeth i'r Iwerddon. Roedd Chamberlain yn anghytuno, gan hynny fe ffurfiodd blaid newydd Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol, a bu'r Unoliaethwyr Rhyddfrydol yn rhannu grym gyda'r Ceidwadwyr.

Wrth ei ddesg yn Swyddfa y Trefedigaethau

Ym Mehefin 1895, cafodd Chamberlain ei benodi’n Ysgrifennydd y Trefedigaethau, sef y gweinidog oedd yn gyfrifol am reoli'r hyn a ddigwyddodd yn Nhrefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig. Gan fod llawer o wledydd Ewrop, yn enwedig yr Almaen a Ffrainc yn tyfu'n gryfach, roedd Chamberlain yn awyddus bod pob gwlad yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn gweithio gyda'i gilydd. Roedd hefyd am i Brydain cymryd mwy o dir yn Affrica. Adeiladodd rheilffordd ar hyd rhan o'r afon Niger i helpu Cwmni Niger Frenhinol Prydain i dyfu.

Roedd Chamberlain hefyd am i Brydain i reoli De'r Affrica. Nid oedd y Boeriaid (ffermwyr yr Iseldiroedd) am i Brydain i reoli eu tir, ac ym 1899 fe wnaethant ymosod ar y Prydeinwyr, gan ddechrau'r Ail Rhyfel y Boer a barodd hyd 1902.

Ym 1898 ceisiodd Chamberlain gwneud cynghrair gyda'r Almaen, ond heb lwyddiant gan hynny aeth i geisio creu cynghrair gyda Ffrainc a arweiniodd at ffurfio'r Entante Cordialle ym 1904, a daeth i ben cannoedd o flynyddoedd o elyniaeth ac ymladd rhwng y ddwy wlad.

Marwolaeth

Ym 1906 trawyd Chamberlain efo strôc oedd yn gwneud yn anodd iddo barhau yn weithgar fel gwleidydd, er hynny parhaodd i wasanaethu fel AS hyd ei farwolaeth ym 1914[3]. Cafodd y teulu cynnig gwasanaeth coffa gwladol iddo yn Abaty Westminster ond gan fod Chamberlain wedi bod yn driw i achos yr Undodiaid trwy ei oes, gwrthodwyd y cynnig a chynhaliwyd yr angladd mewn capel undodiaid ym Mirmingham.

Cyfeiriadau

  1. "JOSEPHCHAMBERLAIN - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1902-11-07. Cyrchwyd 2015-07-08.
  2. "JOSEPHCHAMBERLAIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1896-02-20. Cyrchwyd 2015-07-08.
  3. 3.0 3.1 "JOSEPH CHAMBERLAIN - Y Clorianydd". David Williams. 1914-07-08. Cyrchwyd 2015-07-08.
  4. "Marw Mr Chamberlain - Y Clorianydd". David Williams. 1914-07-08. Cyrchwyd 2015-07-08.
Kembali kehalaman sebelumnya