Jim Henson
Pypedwr o'r Unol Daleithiau oedd James Maury "Jim" Henson (24 Medi, 1936 – 16 Mai, 1990) a greodd sioeau poblogaidd fel y Muppets, a pherfformiodd ar Sesame Street a The Muppet Show. Mae'n bosibl taw Henson yw'r pypedwr mwyaf llwyddiannus erioed.[1] Ceisiodd foderneiddio pypedwaith ag arbenigedd technegol i'w addasu i'r sgrîn, a defnyddio pypedau fel modd o adrodd straeon. Y dyddiau cynnarGanwyd Henson yn Greenville, Mississippi, ar 24 Medi 1936 a chafodd ei fagu yn Leland, Mississippi, gan deulu o Seientiaid Cristnogol. Agronomegwr oedd ei dad oedd yn gweithio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau. Symudodd y teulu i Maryland a phan oedd Jim ym Mhrifysgol Maryland cafodd ei hurio gan sianel deledu leol i gynhyrchu rhaglen fer o'r enw Sam and Friends.[1] Cyd-weithiodd â Jane Nebel, myfyrwraig, a phriododd y ddau ym 1959. Cafodd y ddau, bump o blant cyn iddynt wahanu ym 1986, ond ni wnaethont ysgaru a pharhaodd y berthynas yn glos hyd at ei farwolaeth.[2] GyrfaCreodd Jim byped o froga ym 1956 ac fe'i enwodd yn "Kermit the Frog" ar ôl ffrind o'i blentyndod.[1] Creodd ragor o 'Muppets', sef cyfansoddair o marionette a puppet, o rwber a brethyn, ac oedd yn gallu dangos emosiwn yn well na phypedau pren[1] a rhoes iddynt "fywyd a sensitifrwydd" ar gyfer y teledu.[2] Yn y 1950au a'r 1960au ymddangosodd y Muppets mewn hysbysebion ac ar sioeau adloniant megis The Ed Sullivan Show a The Today Show.[1][3] Cyflogwyd Henson ym 1969 gan y Children's Television Workshop i berfformio'i bypedau ar y rhaglen blant Sesame Street. Cyflwynodd Henson y cymeriadau Bert ac Ernie, Big Bird, Grover ac eraill i'r sioe.[2] Darlledwyd The Muppet Show o 1976 hyd 1981, a llwyddodd i ennill 235 miliwn o wylwyr ar draws y byd ar adegau.[2] Cydweithiodd â'r pypedwr Frank Oz ar Sesame Street a The Muppet Show. Cynhyrchodd Henson The Muppet Movie (1979), a chyfarwyddodd The Great Muppet Caper (1981), ffilmiau oedd yn serennu'r Muppets. Yn y 1980au creodd y rhaglen blant Fraggle Rock a'r gyfres The Storyteller. Gweithiodd hefyd ar y ffilmiau ffantasi The Dark Crystal (1982) a Labyrinth (1986), ond nid oedd yn llwyddiannus yn y swyddfa docynnau.[4] GwobrauYn ystod ei yrfa, enillodd Henson 18 Gwobr Emmy, saith Gwobr Grammy, a phedair Gwobr Peabody.[1] Roedd yn enwog am ei garedigrwydd, ei ostyngeiddrwydd a'i daldra o 6'3".[2][4] Bu farw Henson ar 16 Mai 1990 o niwmonia.[5] Ar y cychwyn ni ddymunodd Henson fynd i'r ysbyty gan nad oedd eisiau trafferthu eraill, ac yn ôl ei wraig Jane mae'n debyg i gredoau Seientiaeth Gristnogol ei deulu "effeithio ei feddwl",[4] er nad oedd Henson yn Seientiad Cristnogol gweithredol ers 15 mlynedd.[6] Cafwyd gwasanaeth coffa gyda 5000 o alarwyr yn Eglwys Gadeiriol Ioan Ddwyfol, Dinas Efrog Newydd.[4][7] Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Dolenni allanol
|