Jawaharlal Nehru
Roedd Jawaharlal Nehru (Hindi: जवाहरलाल नेहरू) (14 Tachwedd 1889 – 27 Mai 1964) yn un o brif arweinyddion y mudiad i ennill annibyniaeth i India ac yn ddiweddarach yn Brif Weinidog cyntaf India annibynnol. Weithiau gelwid ef yn Pandit Nehru; mae "Pandit" yn golygu "ysgolhaig". Ganed Jawaharlal Nehru yn ninas Allahabad, ger glannau Afon Ganga ac yn awr yn nhalaith Uttar Pradesh. Roedd ei dad, Motilal Nehru, yn fargyfreithiwr cefnog. Yn 15 oed gyrrwyd Nehru i Loegr i Ysgol Harrow; yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt cyn cael ei hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain. Wedi dychwelyd i India, priododd Kamala Kaul ar 8 Chwefror 1916. Y flwyddyn wedyn ganwyd eu hunig blentyn, Indira Priyadarshini, yn ddiweddarach Indira Gandhi. Dechreuodd Nehru gymeryd diddordeb yn y mudiad cenedlaethol, a daeth dan ddylanwad Mahatma Gandhi. Erbyn 1929 roedd yn un o brif arweinwyr y mudiad cenedlaethol, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau. Bu farw Kamala Nehru yn 1938. Pan enillodd India annibyniaeth yn 1947, daeth Nehru yn Brif Weinidog. Dan ei arweiniad ef, enillodd Plaid y Gyngres fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad 1952. Dan Nehru, dilynodd India bolisiau sosialaidd. Enillwyd buddugoliaeth arall yn etholiad 1957, ac eto yn 1962 ond gyda mwyafrif llai. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r Mudiad Heb Aliniad. Ym Mai 1964, dioddefodd Nehru drawiad ar y galon, a bu farw ar 27 Mai. Yn unol a'r arferiad Hindwaidd, llosgwyd ei gorff ger glan Afon Yamuna yn Delhi, ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr. Yn ddiweddarach daeth ei ferch, Indira, yn Brif Weinidog, a bu ei ŵyr Rajiv Gandhi yn Brif Weinidog hefyd yn ei dro. |