Jacqui Smith
Gwleidydd o Loegr gyda'r [[Y Blaid Lafur|Blaid Lafur] yw Jacqueline Jill "Jacqui" Smith (ganed 3 Tachwedd 1962). Hi oedd yr Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig o 2007 i 2009. Hi oedd Aelod Seneddol i Redditch o 1997 hyd 2010. Fe'i gwnaed yn Aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 2003. Smith oedd yr Ysgrifennydd Cartref benywaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Fel Ysgrifennydd Cartref y DU, bu'n gefnogwraig brwd o bolisïau awdurdodaidd. Enghreifftiau o hyn yw'r ddeddf sy'n caniatau carcharu'r rhai a ddrwgdybir o drosedd am nifer o fisoedd heb ddod ag achos yn eu herbyn, cronfa-ddata ganolog sy'n cofnodi pob galwad ffôn symudol ac ebost a defnydd o'r rhyngrwyd, a chyfyngiadau am ryddid ffotograffiaeth. Cafodd y ffug-enw "Jackboot Jacqui" gan bapurau tabloid y DU oherwydd ei pholisïau.[1] Cyfiawnha Smith ei pholisïau gan ddweud eu bod yn ddeddfau "gwrth-derfysgaeth". Roedd Smith yn gystadleuydd yn 18fed cyfres rhaglen deledu’r BBC, Strictly Come Dancing, yn 2020. Cyfeiriadau
|