Glofa'r Tŵr
Y pwll glo dwfn gweithio'n barhaus hynaf yng ngwledydd Prydain, ac o bosibl y byd, ac y pwll olaf o'i fath i aros yng Nghymoedd De Cymru oedd Glofa'r Tŵr (Saesneg: Tower Colliery). Mae wedi ei leoli ger pentrefi Hirwaun a Rhigos, i'r gogledd o dref Aberdâr yn Cwm Cynon, Rhondda Cynon Taf. Arweinwyd yr ymgyrch i achub y pwll glo gan Tyrone O'Sullivan.[1] Fe ail-agorodd y pwll glo yn 1995 ar ôl cyfnod ar gau, fel eiddo i 239 glowr a brynodd y pwll glo am £8,000 yr un o daliadau colli swydd.[2] Ar 25 Ionawr 2008, fe gaeodd Glofa'r Tŵr am y tro olaf.[3] Cyfeiriadau
|