Daniel Owen
Llenor o Gymru oedd Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895).[1] Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar y 19g yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg. BywgraffiadGanwyd Owen yn yr Wyddgrug yn fab i'r glöwr Robert Owen. Bu farw ei dad a'i ddau frawd, James a Robert, ar 12 Mai 1838 mewn damwain pan fu llifogydd ym mhwll glo Argoed, gan adael Owen, ei fam, a thri o frodyr a chwiorydd eraill i ddibynnu ar elusen y plwyf am eu cynhaliaeth. Ni dderbyniodd lawer o addysg ffurfiol, ond cydnabu Owen ei ddyled i'r addysg a dderbyniodd yn yr Ysgol Sul. Yn 12 oed, daeth Owen yn brentis i deiliwr, Angel Jones, a oedd yn un o flaenoriaid ac arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug. Disgrifiodd Owen y brentisiaeth fel math o goleg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi wedi iddo gael ei ddylanwadu gan un o'i gydweithwyr. Defnyddiodd Owen siop y teiliwr fel cyfle i drafod a dadlau gyda'i gyd-weithwyr a'r cwsmeriaid, thema sy'n amlwg yn ei nofelau. Ymhlith pynciau'r trafodaethau oedd materion gwleidyddol a diwinyddol; a darllenwyd ar lafar o destunau amrywiol mewn Cymraeg a Saesneg gan gynnwys nofelau'r awduron Saesneg George Eliot a Walter Scott. Roedd Owen ac aelodau eraill o'i gylch yn barddoni hefyd, ac ymysg gweithiau llenyddol cynharaf yr awdur y mae amryw o gerddi a ysgrifennwyd yn ystod ei gyfnod yn brentis i Angel Jones. Defnyddiodd y ffugenw 'Glaslwyn' wrth gyhoeddi cerddi yn y cylchgronau. Bu Daniel Owen yn hyfforddi am gyfnod yng Ngholeg y Bala, (1865-1867), sef Coleg hyfforddi ei enwad ar y pryd. Ni chafodd ei ordeinio gan iddo ddewis gadael ei astudiaethau pan briododd ei frawd Dafydd, gan adael Owen i gynnal ei chwiorydd a'i fam. Roedd yn falch, fodd bynnag, o gael dychwelyd i'r Wyddgrug ac ailafael yn ei waith yn siop Angel Jones, lle bu'n gweithio fel teiliwr tan ddiwedd ei oes, yn gyntaf fel gweithiwr ond yn y man yn gyd-berchennog ei fusnes ei hun.. Er nad oedd bellach yn bwriadu bod yn weinidog, parhaodd Owen i bregethu tan iddo orfod rhoi'r gorau i deithio oherwydd ei iechyd bregus.[2] Roedd yn aelod yng nghapel Bethesda, o dan weinidogaeth y Parchedig Roger Edwards, a ysgogodd Owen i ddechrau ysgrifennu gan nad oedd bellach yn medru pregethu. Y canlyniad oedd Offrymau Neilltuaeth, gwaith rhyddiaith difrifol cyntaf yr awdur, gyda'r is-deitl 'Cymeriadau Beiblaidd a Methodistaidd' gyhoeddwyd yn 1879. Cynhwysai gyfres o storiau mewn 5 pennod am gymeriadau Methodistaidd a gellir ei ystyried yn nofel fer yn troi o gwmpas dewis blaenoriaid mewn capel. Perswadiodd Roger Edwards, a oedd ei hunan yn nofelydd, iddo ysgrifennu nofel i'w chyhoeddi fesul pennod yng nghyfnodolyn Y Drysorfa (sef cylchgrawn yr oedd Edwards yn ei olygu ar y pryd). Y Dreflan oedd y nofel honno, ac er nad yw'r nofel yn cael llawer o sylw heddiw yr oedd hi'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Daniel Owen. Oherwydd poblogrwydd Y Dreflan perswadiwyd y nofelydd eto gan Edwards i ddechrau ail nofel yn syth. Rhys Lewis oedd y nofel honno, ac wedi ei chyhoeddi, sefydlwyd enw'r nofelydd fel ffigwr holl-bwysig yng Nghymru. Defnyddiodd elw'r cyhoeddi i godi ty newydd (Cae'r Ffynnon) ger man ei eni yn Maes y Dref, Yr Wyddgrug ar gyfer ei fam (fu farw cyn iddi gael symud yno). Dilynwyd Rhys Lewis gan ddwy nofel eto, Enoc Huws a Gwen Tomos a chyfres o straeon byrion sef Straeon y Pentan. Roedd yn ddeifiol ei wawd o'r tueddiadau a welai mewn Anghydffurfiaeth yng Nghymru i fod yn ymbarchuso yn ystod ei gyfnod ef. GwaddolRhoddir Gwobr Goffa yn ei enw gan Yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer nofel heb ei chyhoeddi. Rhwng 2002 a 2006, darlledodd S4C y gyfres Treflan, yn seiliedig ar lyfrau Daniel Owen, gan ddilyn hanesion Rhys Lewis ac Enoc Huws' yn bennaf. Llyfrau
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |