Cystadleuaeth flynyddol o ganu yw Cystadleuaeth Cân Eurovision.
Caiff gwledydd gweithredol yr Undeb Darlledu Ewropeaidd y cyfle i roi cân ymlaen a berfformir ar deledu byw. Mae'r gwledydd sy'n cystadlu hefyd yn pleidleisio dros eu hoff ganeuon a'r gân fuddugol yw'r un â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Cafodd y gystadleuaeth ei darlledu am y tro cyntaf ym 1956 fel ffordd o ddod â gwahanol gwledydd Ewrop at ei gilydd. Un o raglenni mwyaf poblogaidd y byd ydyw gan dros 600 miliwn o wylwyr dros y byd i gyd yn edrych ar y gystadleuaeth fawr.
Er bod y gystadleuaeth yn enwog am ganeuon pop, mae nifer fawr o fathau o gerddoriaeth wedi cynrychioli'r gwledydd sy'n cymryd rhan.
Yn y Deyrnas Gyfunol, y BBC sydd wedi darlledu'r gystadleuaeth ers y cychwyn, a'r darlledwr oedd yn arfer dewis y gân a'r artist i'w berfformio. Yn fwy diweddar, cynhelir cystadleuaeth deledu gan y BBC sydd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddewis enillydd o rhestr fer. Fel un o'r 5 aelod mwyaf sy'n ariannu'r UDE, mae cystadleuydd y DU yn cael eu derbyn yn syth i'r rownd derfynol. Mae gweddill y gwledydd yn gorfod cystadlu mewn 2 rownd gyn-derfynol.
Cystadleuwyr o Gymru
Mae nifer o gantorion o Gymru wedi cystadlu dros y blynyddoedd:[1]
1970 - Mary Hopkin - gyda'r gân "Knock, Knock Who's There?". Daeth yn ail agos, gyda Dana yn ennill y gystadleuaeth dros Iwerddon.
1975 - Nicky Stevens fel rhan o'r grŵp Brotherhood of Man - gyda'r gân "Save All Your Kisses for Me". Enillodd y gân, yr unig amser i rywun o Gymru fod yn fuddugol.
1990 - Emma Louise Booth - gyda'r gân "Give a Little Love Back to the World". Roedd y gantores o Ben-y-bont ar Ogwr yn 15 oed ar y pryd. Daeth yn y chweched safle.
2002 - Jessica Garlick - gyda'r gân "Come Back". Daeth y gantores o Gydweli yn gydradd drydydd.
2004 - James Fox - gyda'r gân "Hold on to our Love". Daeth yn safle 16 allan o 24.
2013 - Bonnie Tyler - gyda'r gân "Believe in Me". Daeth yn safle 19 allan o 26.
2016 - Joe Woolford fel rhan o'r ddeuawd Joe and Jake - gyda'r gân "You're Not Alone". Daeth yn safle 24 allan o 26.
Statws i Gymru
Bu'r syniad o gynrychiolydd yn enw Cymru fel gwlad yn y gystadleuaeth yn freuddwyd gan nifer ers yr 1960au. Yn wir, bu'r methiant i ennill y statws yno yn un rheswm dros sefydly cystadleuaeth debyg Cân i Gymru gan Meredydd Evans pan oedd yn Bennaeth Adloniant Ysgafn yn BBC Cymru ar ddiwedd yr 1960au.
Ym mis Mai 2024 cyhoeddodd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru 2024, gân arbennig i gefnogi ymgyrch i sicrhau lle i Gymru gystadlu yn yr Eurovision.
Fe fydd fideo ohoni hi’n canu fersiwn ddawns o ‘Anfonaf Angel’, cân deimladwy enwog Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, ar gael ar YouTube o 3 Mai ac ar gael i’w ffrydio a’i phrynu. Roedd y fersiwn o ‘Anfonaf Angel’ ar ei newydd wedd wedi ei chynhyrchu’n wreiddiol ar gyfer Seremoni Agoriadol Gwobrau BAFTA Cymru y, mewn n 2023 mewn cydweithrediad â Coco & Cwtsh[2]