Cy Morgan
Am bitsiwr o'r degawdau 1900 a 1910 y mae'r erthygl hon (Cy Morgan = Harry Richard "Cy" Morgan). Y mae pitsiwr o Massachusetts o'r un enw o'r degawd 1920 (Cy Morgan = Cyril Arlon "Cy" Morgan) (1895 – 1946). Pitsiwr [[pêl-faspp Cynghrair Mawr America oedd Harry Richard "Cy" Morgan (10 Tachwedd 1878 – 28 Mehefin 1962). Rhwng 1903 a 1913 chwaraeodd i’r timau St. Louis Browns, Boston Red Sox, Philadelphia Athletics a'r Cincinnati Reds. Batiwr a phitsiwr llaw dde oedd. Fe'i ganed yn Pomeroy, Ohio. Y pumed o saith o blant oedd Cy Morgan. Alwilda Brookes oedd enw ei fam, brodor o Bennsylvania fel ei rhieni hithau. Cymro oedd ei dad, William G. Morgan, a ymfudodd i UDA. Saer coed oedd y tad wrth ei waith a byw yn Pomeroy yn ôl cyfrifiad 1880 [1]. Bu farw Cy Morgan yn Wheeling, West Virginia ar Fehefin 28, 1962, yn 83 oed, o glefyd y rhydwelïau coronaidd. Cyfeiriadau
|