Aneurin Bevan
Cymro a gwleidydd Llafur oedd Aneurin 'Nye' Bevan (15 Tachwedd 1897 - 6 Gorffennaf 1960). Bu'n aelod seneddol dros y Blaid Lafur, yn etholaeth Glynebwy o 1929 tan 1960. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn arolwg o arwyr Cymru. IeuenctidGanwyd Bevan yn Nhredregar yn fab i lowr a Bedyddiwr, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol. LlywodraethRoedd etholiad cyffredinol 1945 yn llwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol. Clement Attlee oedd y Prif Weinidog newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Gweinidog Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y 5 Gorffennaf, 1948. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr Ail Ryfel Byd. Yn 1951, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer dentyddiaeth a sbectol. Gweler hefyd
|